Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 26 Mehefin 2013 i'w hateb ar 3 Gorffennaf 2013

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau

 

1. Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa fesurau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i asesu cyrhaeddiad plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal? OAQ(4)0298(ESK)W

 

2. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth addysgol i blant mewn llochesau i fenywod? OAQ(4)0288(ESK)

 

3. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella safonau mewn pynciau craidd megis mathemateg, gwyddoniaeth a darllen mewn ysgolion yng Nghymru? OAQ(4)0304(ESK)

 

4. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo DPP i athrawon a chynorthwywyr addysgu? OAQ(4)0303(ESK)

 

5. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am addysg yn y cartref yng Nghymru? OAQ(4)0302(ESK)

 

6. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi ei wneud o fanteision posibl cerdded neu feicio i'r ysgol i addysg plentyn? OAQ(4)0295(ESK)

 

7. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i wella sgiliau llythrennedd a rhifedd plant yng nghyfnod allweddol 2 a 3? OAQ(4)0290(ESK)

 

8. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddarpariaeth addysg ôl-16 yn Nhorfaen? OAQ(4)0293(ESK)

 

9. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru):  Pa drafodaethau diweddar y mae'r Gweinidog wedi eu cael ynglŷn â phwysau ariannol yn ei bortffolio? OAQ(4)0305(ESK)W

 

10. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am unrhyw gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i adolygu'r cwricwlwm ysgol? OAQ(4)0294(ESK)

 

11. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Pa gynnydd sydd wedi ei wneud tuag at sicrhau bod canlyniadau cyfnod allweddol 2 yn cael eu cymedroli mewn ffordd sy'n golygu bod y canlyniadau'n gyson? OAQ(4)0289(ESK)

 

12. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ystyriaethau Llywodraeth Cymru o ran gwella gwasanaethau addysg yn Nwyrain De Cymru? OAQ(4)0296(ESK)

 

13. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu addysg gorfforol yn ein hysgolion? OAQ(4)0300(ESK)

 

14. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): Beth yw'r amserlen ar gyfer gosod y Safonau Iaith Gymraeg ar sefydliadau yn ogystal ag awdurdodau lleol, awdurdodau parciau cenedlaethol a Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0291(ESK) TROSGLWYDDWYD I'W ATEB YN YSGRIFENEDIG GAN Y PRIF WEINIDOG

 

15. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei flaenoriaethau allweddol ar gyfer gwella safonau addysgol? OAQ(4)0299(ESK)

 

Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

 

1. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am drydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd a’r Gogledd? OAQ(4)0290(EST)W

 

2. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau buddsoddiad yng Nghymru? OAQ(4)0284(EST)

 

3. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth sydd ar gael i fusnesau bach yn Aberconwy? OAQ(4)0295(EST)

 

4. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi arwyddion twristiaeth brown Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0293(EST)

 

5. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfleoedd twristiaeth ffydd yng Nghymru? OAQ(4)0283(EST)

 

6. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bwysigrwydd economaidd swyddfeydd post i'r stryd fawr leol yng Nghymru? OAQ(4)0286(EST) TROSGLWYDDWYD I'W ATEB YN YSGRIFENEDIG GAN Y GWEINIDOG CYMUNEDAU A THRECHU TLODI

 

7. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau bysiau yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(4)0287(EST)

 

8. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gryfhau'r cysylltiadau rhwng yr iaith Gymraeg a datblygu economaidd? OAQ(4)0296(EST)

 

9. Sandy Mewies (Delyn): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu cwmnïau adeiladu bach a chanolig eu maint yn Nelyn i gael gafael ar gyllid i greu a diogelu swyddi? OAQ(4)0291(EST)

 

10. Elin Jones (Ceredigion): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda banciau ynglŷn â chymorth i fusnesau? OAQ(4)0288(EST)

 

11. Julie James (Gorllewin Abertawe): A wnaiff y Gweinidog wneud datganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo Cymru i deithwyr awyr, gan gynnwys twristiaid a theithwyr busnes? OAQ(4)0292(EST)

 

12. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei blaenoriaethau ar gyfer hybu gwyddoniaeth? OAQ(4)0297(EST)W

 

13. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer canolbarth Cymru? OAQ(4)0294(EST)

 

14. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i sefydlu ymgyrch ‘Cefnogi'r Stryd Fawr yng Nghymru’?  OAQ(4)0285(EST) TROSGLWYDDWYD I'W ATEB YN YSGRIFENEDIG GAN Y GWEINIDOG TAI AC ADFYWIO

 

15. Eluned Parrott (Canol De Cymru): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella a chynyddu argaeledd trafnidiaeth gyhoeddus ledled de Cymru cyn etholiad nesaf y Cynulliad? OAQ(4)0289(EST)